Y llfr Data
Y llfr Data • PCODE 23 • ID 16
Mae'r Llyfrau Data yn dri chasgliad o wersi trin data a thebygolrwydd ar gyfer cyfnodau allweddol 2 a 3.
Mae'r tri Llyfr Data yn gasgliad o weithgareddau data ar gyfer cyfnodau allweddol 2 a 3. Cafwyd eu comisiynu gan y Cynulliad (gynt ACCAC) a'u hysgrifennu yn gydamserol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Er mai blas Cymreig sydd i'r gwaith a'r esiamplau, maent yr un mor gymwys i'w defnyddio yn Lloegr.
Cyhoeddwyd llyfr A2 o bosteri i ysgogi trafodaeth am ddata a thebygolrwydd gyda thudalennau o gwestiynau, geirfa allweddol ac amcanion y gwersi ar gyfer yr athro/athrawes. Gall y llyfr sefyll ar ddesg yr athro/awes fel bod yr athro/awes yn gallu gweld y nodiadau a'r plant yn gallu gweld y poster. Gyda'r llyfr A2 mae llyfr A4 o daflenni gwaith i gyd-fynd â phob poster, copïau gwreiddiol tryloywon ar gyfer uwch daflunydd, copïau llai o nodiadau'r athro/awes a chyfarwyddiadau cynhwysfawr i'r athro/awes ar sut i ddefnyddio'r deunyddiau. Hefyd mae CD-ROM o'r posteri ar gael ar gyfer eu cyflwyno gyda'r bwrdd gwyn rhyngweithiol, yn ogystal â dolennau we defnyddiol a data a gasglwyd gan Census at School sydd wedi'u cyflwyno mewn taenlenni sy'n hawdd i'w defnyddio. (Mae'r CD yn cynnwys copi PDF o'r deunyddiau addysgu i gyd).
Mae tri llyfr yn y gyfres gyda 20 gweithgaredd trin data ym mhob un ohonynt sy'n cyfateb i ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr.
Cyhoeddi
Manylion y Cynnwys
Mae pob set o ddeunyddiau yn cynnwys dau lyfr (un A4 a'r llall yn A2) a CD-ROM.
-
Pecyn Llyfr Data 1
Mae'r Llyfrau Data yn dri chasgliad o wersi trin data a thebygolrwydd ar gyfer cyfnodau allweddol 2 a 3.More info
-
Pecyn llyfr Data 2
Mae'r Llyfrau Data yn dri chasgliad o wersi trin data a thebygolrwydd ar gyfer cyfnodau allweddol 2 a 3.More info
-
Pecyn llyfr Data 3
Mae'r Llyfrau Data yn dri chasgliad o wersi trin data a thebygolrwydd ar gyfer cyfnodau allweddol 2 a 3.More info










